Pwyllgorau

Er mwyn ei gynorthwyo i gyflawni’i gyfrifoldebau statudol yn effeithiol, mae cyfarfodydd ffurfiol yn cael eu cynnal yn rheolaidd i ystyried busnes yr Awdurdod.

Cynhelir y cyfarfodydd hyn yng ngŵydd y cyhoedd ac estynnir gwahoddiad i’r wasg. Dan amgylchiadau arbennig, er enghraifft lle gallai manylion personol pobl neu amodau a thelerau tendrau a chontractau gael eu datgelu, neu lle byddai cyhoeddusrwydd yn peryglu’r gwaith o ymchwilio i droseddau neu atal troseddau, mae rhai rhannau o’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn breifat.

Mae’r holl gyfarfodydd ffurfiol yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw ac mae adroddiadau a phapurau cefndir yn agored i gael eu harchwilio gan y cyhoedd lle mae materion yn mynd i fod yn cael eu trafod yng ngŵydd y cyhoedd. Mae’n rhaid rhoi rhesymau os yw’r Awdurdod yn dymuno trafod materion yn breifat.

Yn ogystal â chyfarfodydd yr Awdurdod Heddlu llawn, mae nifer o bwyllgorau’n cwrdd yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Gall y pwyllgorau hyn wneud penderfyniadau ar ran yr Awdurdod, neu wneud argymhellion i’r Awdurdod Heddlu llawn.

Mae dyddiadau cyfarfodydd sydd ar fin cael eu cynnal yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon unwaith y maent wedi cael eu cytuno yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gofynion Unigol

Cysylltwch yn ddiymdroi â Swyddfa Awdurdod yr Heddlu os ydych yn dymuno bod yn bresennol mewn cyfarfod neu fwrw golwg ar ddogfen ac yn dymuno i ni gymryd i ystyriaeth unrhyw ofynion arbennig sydd gennych.....[mwy]

Amodau Gorchwyl Pwyllgorau

Caiff cylch gorchwyl pob Pwyllgor ei egluro gan Amodau Gorchwyl Awdurdod yr Heddlu.