Perfformiad
Mae Awdurdod Heddlu Gwent yn gyfrifol am gynnal gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer cymunedau Gwent, ac mae’n cyflawni’r ddyletswydd hon trwy fonitro a chraffu ar lefelau perfformiad o fewn Heddlu Gwent – mewn geiriau eraill, gwneud yn siŵr bod y gweithlu’n gwneud ei waith yn effeithiol.
Mae Aelodau’n craffu ar berfformiad yr heddlu ac yn ei herio gan gymharu’r perfformiad â’r gofynion yn y Cynllun Plismona Lleol sy’n cynnwys amcanion a thargedau cenedlaethol yn ogystal â rhai a bennwyd yn lleol. Mae meysydd monitro perfformiad ar y cyfan yn cynnwys:
- Troseddau a Phlismona lleol – mae’n cynnwys pob math o droseddau;
- Ymddygiad Gwrthgymdeithasol – gan gynnwys gostwng nifer y digwyddiadau a’u heffaith ar y cyhoedd yng Ngwent;
- Amddiffyn rhag Niwed Difrifol – gan gynnwys trais difrifol, digwyddiadau critigol, ac amddiffyn pobl agored i niwed;
- Gwerth am Arian a Chynhyrchedd – mae’n ymwneud â chyflenwi gwasanaeth heddlu darbodus, cynaliadwy ac uchel ei ansawdd;
- Hyder a Bodlonrwydd – ymhlith dioddefwyr a defnyddwyr gwasanaeth yr heddlu;
- Gwella Perfformiad – gan gynnwys yr Addewid Plismona a recriwtio grwpiau a dangynrychiolir.
Mae pob un o Bwyllgorau Awdurdod yr Heddlu yn monitro cyfres o amcanion perfformiad yn ei faes penodol ei hun ac mae ein Haelodau Arweiniol yn cael eu haseinio i feysydd perfformiad sy’n ymwneud â’u harbenigedd neu sgiliau penodol.
I gael gwybod mwy am berfformiad yr heddlu yn eich ardal chi, ewch at wefan y Swyddfa Gartref www.police.uk
I gael mwy o wybodaeth am faterion sy’n ymwneud â pherfformiad, cysylltwch â Neil Taylor ar 01633 643001, neu anfonwch neges e-bost.
