Ynglŷn ag Awdurdod Heddlu Gwent

Mae gan Awdurdod Heddlu Gwent 17 o aelodau sy’n cynnwys 9 o gynghorwyr ac 8 aelod annibynnol.

Gwaith y Prif Gwnstabl yw cyflenwi gwasanaethau plismona. Awdurdod yr Heddlu sy’n pennu’r cyfeiriad strategol ar gyfer yr heddlu ac yn dwyn y prif gwnstabl i gyfrif ar ran y gymuned leol am y gwasanaeth plismona a gyflenwir.

Yn gryno, mae Awdurdod yr Heddlu:

  • Yn dal cyllideb yr heddlu ac yn dyrannu adnoddau
  • Yn penodi (ac yn diswyddo) y Prif Gwnstabl ac uwch swyddogion yr heddlu
  • Yn ymgynghori’n eang â’r bobl leol ynghylch y modd y caiff eu hardal ei phlismona
  • Yn pennu blaenoriaethau plismona lleol a thargedau i’w cyrraedd
  • Yn monitro popeth y mae’r heddlu’n ei wneud a pha mor dda y mae’n perfformio mewn perthynas â’r targedau a bennwyd gan yr awdurdod
  • Yn cyhoeddi cynllun blynyddol sy’n dweud wrth bobl leol beth allant ei ddisgwyl gan eu gwasanaeth heddlu ac yn adrodd yn ôl ar ddiwedd y flwyddyn
  • Yn sicrhau bod pobl leol yn cael y gwerth gorau gan eu heddlu lleol
  • Yn goruchwylio cwynion yn erbyn yr heddlu ac yn disgyblu uwch swyddogion

Ein Datganiad Cenhadaeth a Gweledigaeth

Prif gyfrifoldeb statudol AHG yw sicrhau gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol i’r ardal. Dyma, yn y bôn, yw’r Genhadaeth neu’r diben gor-redol ..... [mwy o wybodaeth]

Picture of Officer at a visit by Her Majesty the Queen

Plismona Lleol

Gallwch ganfod manylion cyswllt eich Tîm Plismona Cymdogaeth Lleol a dyddiadau cyfarfodydd Partneriaethau a Chymunedau Ynghyd (PACT) ar wefan Heddlu Gwent.