Croeso i Awdurdod Heddlu Gwent

Picture of Gwent Police Authority Chair, Cilla Davies

Cymerwch ychydig o amser i bori trwy’r wefan a dysgu ychydig am rolau a chyfrifoldebau yr Awdurdod a dod i wybod mwy am yr hyn yr ydym yn ei wneud a sut y gallwch chi chwarae rhan.

Os ydych chi’n byw yn ein hardal, rydym yn gwerthfawrogi eich barn chi am y gwasanaeth heddlu.

Fe’ch gwahoddir i gwrdd â rhai o aelodau Awdurdod yr Heddlu a dysgu sut y gallwch chi fod yn rhan o bennu blaenoriaethau yn eich ardal.

Dewch yn ôl at y wefan hon yn rheolaidd os gwelwch yn dda i gael gwybod beth sy’n digwydd. Diolch yn fawr i chi am eich diddordeb.


Cilla Davies OBE DR YN
Cadeirydd Awdurdod Heddlu Gwent

Newyddion diweddaraf

Mwy o wybodaeth am Awdurdodau Heddlu yng Nghymru

Mae Awdurdod Heddlu Gwent yn un o bedwar Awdurdod yng Nghymru, felly i gael gwybod mwy am y modd y mae’r pedwar Awdurdod Heddlu’n cydweithio i greu Cymru well, ddiogelach, ewch at wefan Awdurdodau Heddlu Cymru.

Llwyddiannau

Caiff perfformiad cryf Awdurdod Heddlu Gwent ei gydnabod mewn Arolygiad ar y cyd gan AHEM/SAC o Awdurdodau Heddlu.

Bwriwch olwg ar ein gwobrau a chyflawniadau allweddol.

Cysylltwch yn ddiymdroi â Swyddfa Awdurdod yr Heddlu os ydych yn dymuno bod yn bresennol mewn cyfarfod neu fwrw golwg ar ddogfen ac yn dymuno i ni gymryd i ystyriaeth unrhyw ofynion arbennig sydd gennych.

Cyhoeddiadau

Mae gan Awdurdod yr Heddlu rwymedigaeth gyfreithiol i gyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau megis y Cynllun Plismona Lleol a’r Adroddiad Blynyddol. I weld y dogfennau hyn a mwy, ewch at yr adran Cyhoeddiadau ar y wefan hon.